PET(4)-06-11 p5a
P-03-170 MENCAP Cymru - Deiseb i gynyddu nifer y bobl ag anableddau dysgu a gyflogir gan y sector cyhoeddus yng Nghymru
Geiriad y ddeiseb
Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Comisiwn y Cynulliad a Llywodraeth Cynulliad Cymru i arwain o ran cyflogi mwy o bobl ag anableddau dysgu, ac i annog cyflogwyr eraill yn y sector cyhoeddus, fel y Gwasanaeth Iechyd Gwladol ac awdurdodau lleol, i gyflogi mwy o bobl ag anableddau dysgu.
Dim ond un o bob 10 o bobl ag anableddau dysgu y mae arnynt eisiau gweithio sydd mewn unrhyw fath o gyflogaeth lle rhoddir tâl. Mae hyn yn annheg.
Cynigwyd gan: MENCAP Cymru
Nifer y llofnodion:134